Dod o hyd i ni.

Mae Rhodfa Santes Catrin wedi ei lleoli yng nghanol Caerfyrddin, yn agos at y Farchnad Dan Do.

Cyfeiriad

Rhodfa Santes Catrin
Heol y Gwyddau
Caerfyrddin SA31 1GA

Mewn Car

Rhowch SA31 1GA neu 4 Heol y Gwyddau yn eich teclyn llywio â lloeren, ac fe fydd yn eich tywys chi i’n maes parcio.

Os ydych yn teithio i’r Gorllewin ar hyd yr M4, ar ddiwedd y draffordd dilynwch yr A48 i Gaerfyrddin cyn ymuno â’r A4242 i ganol y dref, gan ddilyn yr arwyddion am Rhodfa Santes Catrin.

Os ydych yn teithio i’r dwyrain i Gaerfyrddin, dilynwch yr A40. Gallwch ddod o hyd i ni o’r Gogledd a’r De ar yr A48, gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer canol y dref.

Ar y Bws

Rydym tua 5-10 munud o daith gerdded o’r orsaf fysiau. Cliciwch yma am wybodaeth ar fysiau i Gaerfyrddin.

I gael gwybodaeth am wasanaethau bws lleol ffoniwch 0871 200 22 33 (7:00-10:00 yn ddyddiol) neu ewch i www.travelinecymru.info

Ar y Trên

Mae’r orsaf drenau tua 15 munud o daith gerdded o Rhodfa Santes Catrin. Cliciwch yma am wybodaeth ar Orsaf Caerfyrddin.

Am amseroedd trên cliciwch yma.

Parcio Car

Mae’n maes parcio yn darparu parcio diogel ar gyfer 950 o geir (gan gynnwys 30 lle parcio i’r anabl) ac mae ar agor 24 awr y dydd. Mae’r maes parcio yn cael ei reoli gan APCOA a gallwch gysylltu â nhw ar 01267 237 313.

PRISIAU

Dydd Llun i ddydd Sul
Hyd at 1 awr: £3.00
Hyd at 2 awr: £4.00
Hyd at 3 awr: £5.00
Hyd at 4 awr: £6.00
Hyd at 24 awr: £8.00
Tocyn Cynnar (Cyrraedd cyn 09.30) £2.70 drwy’r dydd.

Parcio heb arian parod – APCOA Connect
APCOA Connect yw ein ffordd hawdd o dalu am barcio. Yn lle ciwio wrth y peiriannau talu, gallwch ddefnyddio APCOA Connect i dalu’n ddiogel am eich parcio drwy eich ffôn symudol – dim arian parod, dim tocyn, dim trafferth. Llwythwch Ap APCOA Connect i lawr o’r Apple App Store neu Google Play Store.

Defnyddiwch y cod lleoliad 2735 i dalu am eich parcio.

GWASANAETHAU

• Gwefru cerbydau trydan
– 12 pwynt gwefru cyflym iawn Tesla, £0.75c ac £0.80c/kWh. Mae modd talu drwy Ap Tesla.
– 5 pwynt gwefru cyflym Compleo, £0.65c/kWh. Llwythwch Ap APCOA Connect i lawr i dalu am wefru, gallwch ddechrau, stopio a thalu’n gyflym drwy’r Ap.

Ewch i wefan APCOA i gael gwybod mwy ac i gael rhestr o Gwestiynau Cyffredin i helpu i’ch arwain drwy’r broses gwefru.

• Gwefru e-feiciau a’u storio’n ddiogel
• Loceri Clicio a Chasglu – Amazon, Inpost a ByBox
• Pod swyddfa wedi’i wresogi ac sydd â Wi-Fi
• Wi-Fi am ddim
• Seddi a pheiriannau gwerthu bwyd a diod
• Parcio i bobl anabl
• Parcio premiwm
• Parcio i rieni a phlant
• Talu drwy ap
• LatePay
• Teledu Cylch Cyfyng

I gael gwybod mwy am y gwasanaethau sydd ar gael, ewch i wefan APCOA.

Prynu Tocyn Ymlaen Llaw a Thocynnau Tymor APCOA
Mae hi’n bosibl archebu sesiynau parcio ymlaen llaw ym maes parcio Rhodfa Santes Catrin. Os bydd angen i chi barcio am gyfnod hirach, mae Tocyn Tymor APCOA yn rhatach na thalu bob dydd a byddwch chi’n cael defnyddio’r maes parcio drwy gydol yr holl oriau agor. Mae dewisiadau premiwm, wythnosol, chwarterol a blynyddol ar gael.

Trefnwch eich parcio ymlaen llaw drwy Docynnau Ymlaen Llaw APCOA neu ewch i wefan Tocynnau Tymor APCOA i brynu tocyn tymor.